Mae’r Rhaglen Ynys Ynni ar y cyd â Llywodraeth Cymru a Pwer Niwclear Horizon yn cynnig sesiynau blasu rhad ac am ddim i ddatblygu gallu busnesau i fod yn barod fel rhan o'r cynllun peilot cychwynnol.
Mae’r peilot hwn yn ategu’r rhaglenni datblygu cyflenwyr sydd ar gael ar hyn o bryd, a’i fwriad yw helpu busnesau lleol a rhanbarthol yng Ngogledd Cymru, yn y sector Gwasanaethau Adeiladu, i wella'u hymwybyddiaeth o’r sgiliau busnes gofynnol ar gyfer bod yn barod i gystadlu am waith a fydd yn gysylltiedig â Phrosiect Wylfa Newydd yn y dyfodol.
Mae pum gweithgaredd yn gysylltiedig â’r rhaglen beilot hon, (a bydd pob un yn cael ei gynnal ddwywaith rhwng Hydref 2014 a Mawrth 2015 mewn lleoliadau ar draws Gogledd Cymru):
- trosolwg o'r Diwydiant Niwclear: ddoe, heddiw ac i’r dyfodolgweithdy ar sut i dendro gyda Pwer Niwclear Horizon
- rheoli Diogelwch Gwybodaeth gyda Pwer Niwclear Horizon
- ysgrifennu CV ar gyfer tendro
- datganiadau dull ac asesiadau risg gyda Pwer Niwclear Horizon
Gan fod rhai meini prawf cymhwyso yn berthnasol, mae'n bosibl y byddwn ni'n cysylltu â chi i gadarnhau bod y busnes yn bodloni'r meini prawf a bennwyd.
Mae'n annhebygol y byddwn ni'n gallu cynnig mwy nag un lle i bob busnes. I gael rhagor o fanylion am bwy ddylai fynychu, darllenwch y disgrifiad o'r digwyddiad cyn i chi archebu eich lle.
Mae eich adborth ar gyfer y Peilot yn hanfodol a chaiff ei ystyried wrth ddatblygu unrhyw raglenni yn y dyfodol.
Am fwy o wybodaeth ac i archebu lle ar y sesiynau blasu, cliciwch ar y linc isod.
Cyhoeddwyd gyntaf
01 Hydref 2014
Diweddarwyd diwethaf
07 Mawrth 2024