Skip to main content

Rydym wedi cadw rhai ffeiliau o'r enw cwcis ar eich dyfais. Y cwcis hyn yw:

  • Hanfodol ar gyfer y safle i weithio
  • Helpu i wella ein gwefan drwy gasglu ac adrodd gwybodaeth am sut rydych chi'n ei defnyddio

Hoffem hefyd arbed rhai cwcis i helpu i deilwra cyfathrebu.

BETA
Rydych yn edrych ar fersiwn wedi'i ddiweddaru o'r gwasanaeth hwn - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Cyfleoedd i fusnesau Cymru gyda phrosiect carchar gogledd Cymru

Cyhoeddwyd gyntaf:
01 Gorffennaf 2014
Diweddarwyd diwethaf:
07 Mawrth 2024
Os ydych chi’n gontractwr ac yr hoffech dendro am becynnau gwaith gyda Lend Lease, y cam cyntaf yw llenwi’r ffurflen Mynegi Diddordeb ar-lein Bydd Lend Lease yn edrych ar eich cais ac yn penderfynu a yw’ch cwmni’n addas ar gyfer y prosiect ac yna’n cysylltu â chi yn uniongyrchol. Dylech fod yn ymwybodol fod polisi caffael Lend Lease yn mynnu fod pob un o aelodau eu cadwyn gyflenwi wedi cael eu hachredu drwy gynllun cydnabyddedig cyn y gellir dyfarnu unrhyw gontractau. Y cynlluniau hynny yw: • Building Confidence (i grefftau risg uchel, gwerth uchel) – gellir cysylltu â’r tîm adeiladu ar 01235 838140 • unrhyw un o’r darparwyr achrededig sy’n gweithredu o dan ‘Cynlluniau Diogelwch mewn Caffael’ (SSIP) (i grefftau risg isel o dan £100k). Gallwch gysylltu â nhw ar 0131 4426612 neu fynd i wefan SSIP • gall Constructionline roi arweiniad drwy eu hachrediad SSIP ‘Acclaim’. Manylion cyswllt: 0844 892 0313 Bydd y datblygiad mawr yn creu cyfleoedd gwaith hirdymor i gyflenwyr lleol. Felly, rydym yn chwilio am fusnesau bach a chanolig sydd gyda gwybodaeth lleol ac arbenigedd mewn meysydd fel: • Sylfeini ac Is-adeiledd Cyffredinol • Swmp Cloddio • Ffrâm Dur Gyffredinol • Toeau Asphalt Cyffredinol • Goleuadau To • Gwaith Silicôn mastig • Blinds a llenni • Plymio, trydan a Mecanyddol • Gosodiadau dwr glaw • Lifftiau - Cyffredinol • Ffensio Diogelwch • Dodrefn Cyffredinol Lleolir y carchar newydd ryw 5 milltir o’r ffin â Swydd Gaer a disgwylir iddo gael ei adeiladu ar safle 66 erw. Bydd ganddo’r potensial i letya oddeutu 2000 o garcharorion categori C. Disgwylir i’r gwaith adeiladu ddechrau ar y safle ym mis Awst 2014 a disgwylir i’r prosiect orffen yn 2017. Dylai cwmnïau nad ydynt yn adeiladwyr sy’n dymuno mynegi diddordeb ebostiwch northwalesprison@lendlease.com
Cyhoeddwyd gyntaf
01 Gorffennaf 2014
Diweddarwyd diwethaf
07 Mawrth 2024

0800 222 9004

Mae'r llinellau ar agor rhwng 8:30am a 5pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.

We welcome calls in Welsh.