Skip to main content

Rydym wedi cadw rhai ffeiliau o'r enw cwcis ar eich dyfais. Y cwcis hyn yw:

  • Hanfodol ar gyfer y safle i weithio
  • Helpu i wella ein gwefan drwy gasglu ac adrodd gwybodaeth am sut rydych chi'n ei defnyddio

Hoffem hefyd arbed rhai cwcis i helpu i deilwra cyfathrebu.

BETA
Rydych yn edrych ar fersiwn wedi'i ddiweddaru o'r gwasanaeth hwn - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Digwyddiad Procurex Cymru

Cyhoeddwyd gyntaf:
04 Mehefin 2015
Diweddarwyd diwethaf:
07 Mawrth 2024
Cynhaliwyd cyfarfod mwyaf o fusnesau’r sector Preifat a’r sector Cyhoeddus yn Neuadd Ddinas Caerdydd ar y 18fed o Fawrth ar gyfer y digwyddiad Procurex cyntaf i’w gynnal yng Nghymru. Mynychodd dros 500 o gynadleddwyr, gyda 30 o siaradwyr a 40 o arddangoswyr. Roedd yn gyfle unigryw ar gyfer y sectorau Cyhoeddus a Phreifat i: • wella eu gwybodaeth am y mentrau a'r datblygiadau diweddaraf mewn arferion caffael cydweithredol • gwrdd a throst 40 o gyflenwyr sy’n arddangos eu busnesau ar eu stondinau • gasglu gwybodaeth am gontractau a fframweithiau sy'n cydymffurfio gyda’r UE sydd ar gael yng Nghymru • wybod mwy am y broses tendro • gael cymorth ynglyn â sut mae'r porth GwerthwchiGymru yn gweithio • ddysgu am bwysigrwydd Manteision i'r Gymuned ym maes caffael cyhoeddus Roedd yn ddiwrnod llwyddianus ar gyfer pawb sy’n gysylltiedig ac yn enwedig Llywodraeth Cymru a noddir ac a drefnodd y digwyddiad. Roedd Busnes Cymru a Gwerthwch i Gymru yn llwyddiannau mawr gyda busnesau, ac yn cynnig cyngor a chefnogaeth i’r holl fusnesau. Roedd pafiliwn canolog hefyd gyda staff o EGT yn rhoi cyngor ac arweiniad tra bod parth Cymorth Busnes Cymru yn cynnig cymorth a gwasanaethau i fusnesau. Dangoswyd gan unigolion a holwyd o'r digwyddiad fod: • 99% yn ymadrodd ei fod yn angenrheidiol, yn bwysig neu'n bwysig iawn i ymgysylltu â'r gymuned cyflenwyr a / neu brynwr a phrofi'r atebion / gwasanaethau diweddaraf • 96% yn barnu bod y pynciau yn y gynhadledd yn dda neu'n ardderchog • 94% yn dweud fod yr arddangosfa ar y cyfan yn dda neu’n ardderchog • 83% yn dweud fod cynlluniad y digwyddiad yn dda neu’n rhagorol • 79% yn dweud fod yr arddangosiad o gynnyrch a gwasanaethau amrywiol yn dda neu’n ardderchog
Cyhoeddwyd gyntaf
04 Mehefin 2015
Diweddarwyd diwethaf
07 Mawrth 2024

0800 222 9004

Mae'r llinellau ar agor rhwng 8:30am a 5pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.

We welcome calls in Welsh.