Skip to main content

Rydym wedi cadw rhai ffeiliau o'r enw cwcis ar eich dyfais. Y cwcis hyn yw:

  • Hanfodol ar gyfer y safle i weithio
  • Helpu i wella ein gwefan drwy gasglu ac adrodd gwybodaeth am sut rydych chi'n ei defnyddio

Hoffem hefyd arbed rhai cwcis i helpu i deilwra cyfathrebu.

BETA
Rydych yn edrych ar fersiwn wedi'i ddiweddaru o'r gwasanaeth hwn - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Cyfle i gwmnïau gofal iechyd Cymru fanteisio ar farchnad £850 miliwn y GIG

Cyhoeddwyd gyntaf:
03 Chwefror 2015
Diweddarwyd diwethaf:
07 Mawrth 2024
Sesiwn Cwrdd â’r Prynwr y GIG a sesiwn Cadwyn Gyflenwi’r GIG yw dwy o’r sesiynau yr edrychir ymlaen amdanynt fwyaf yn arddangosfa a chynhadledd BioCymru eleni, a gynhelir yng Nghanolfan Mileniwm Cymru, Caerdydd ar 4 a 5 Mawrth. Bydd y mynychwyr yn cael cyfle i glywed arweinwyr caffael, ariannol a chlinigol uwch GIG Cymru yn sôn am drefniadau caffael y GIG a chyflwyno cynhyrchion arloesol i’r GIG. Bydd y cyfleoedd caffael diweddaraf yn cael sylw hefyd. Bydd prynwyr masnachol a chynrychiolwyr blaenllaw o’r sector ar gael ar gyfer sesiynau partneru un-i-un. Dywedodd Gweinidog yr Economi, Edwina Hart: “BioCymru yw’r digwyddiad mwyaf blaenllaw ar gyfer y sector gwyddorau bywyd yng Nghymru ac mae’r digwyddiad eleni yn canolbwyntio ar fusnes gyda ffocws penodol ar y gadwyn gyflenwi. Mae’r GIG yn gwario cannoedd o filiynau bob blwyddyn ar nwyddau a gwasanaethau sy’n cynnig marchnad anferth bosibl i fusnesau yng Nghymru. Nod BioCymru 2015 yw helpu busnesau i fanteisio ar y cyfleoedd sydd ar gael. “Bydd sesiynau Cwrdd â’r Prynwr y GIG a Chadwyn Gyflenwi’r GIG yn helpu busnesau i ddeall y broses gaffael, i ddysgu sut i gael eu nwyddau a’u gwasanaethau i’r GIG a bydd yn gyfle iddynt gyfarfod uwch swyddogion caffael.” Mark Roscrow – Cyfarwyddwr Gwasanaethau Caffael, Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru (NWSSP) sy’n arwain sesiwn Cwrdd â’r Prynwyr y GIG ar ail ddiwrnod BioCymru. Bydd Mark a nifer o’i arweinwyr a’i arbenigwyr caffael wrth law yn y gynhadledd ac yn y sesiwn bartneru un-i-un. Mae’r prif siaradwyr eraill yn cynnwys: • Dr Andrew Goodall, Prif Weithredwr GIG Cymru • Stacie Croxton, Cyfarwyddwr Gwasanaeth Cwsmeriaid a Marchnata Cadwyn Gyflenwi’r GIG; • Hamish Laing, Cyfarwyddwr Meddygol, Cyfarwyddwr Technoleg ac Arloesedd, Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg ac • Alan Brace, Dirprwy Brif Weithredwr a Chyfarwyddwr Cyllid a Chaffael, Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan. Bydd nifer o siaradwyr rhyngwladol ac arbenigwyr o fyd diwydiant yn BioCymru 2015 a fydd yn gwneud cyflwyniadau ar gyfleoedd masnachol ar gyfer twf, gwaith partneriaeth rhwng y GIG a diwydiant, treialon clinigol, rheoleiddio meddyginiaethau a chynhyrchion gofal iechyd a llwybrau i’r farchnad gan gynnig cipolwg a chyngor i gwmnïau ar gyfleoedd a rhwystrau. Mae’r digwyddiad deuddydd yn cynnwys cystadleuaeth debyg i Dragon’s Den gydag ymgeiswyr yn cyflwyno eu syniadau arloesol i banel o fuddsoddwyr ariannol blaenllaw - dan gadeiryddiaeth yr Athro Syr Chris Evans. Bydd y cais buddugol yn ennill gwobr ariannol a roddwyd gan ddiwydiant, gwerth hyd at £3000. Bydd y gynulleidfa’n dod o bob cwr o’r sector gyda chynrychiolwyr o bob elfen o ecosystem gwyddorau bywyd a bydd y digwyddiad yn darparu cyfleoedd gwych i rwydweithio gyda phobl allweddol, arloeswyr, buddsoddwyr, cwmnïau ac academyddion. Gall cwmnïau gymryd rhan yn BioCymru ar sawl lefel: fel cynrychiolwyr, arddangoswyr, noddwyr, mewn sesiynau partneru un-i-un a gallant gofrestru ar-lein yn www.biowales.com (dolen allonol).
Cyhoeddwyd gyntaf
03 Chwefror 2015
Diweddarwyd diwethaf
07 Mawrth 2024

0800 222 9004

Mae'r llinellau ar agor rhwng 8:30am a 5pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.

We welcome calls in Welsh.