Pan fyddwch yn dilyn y ddolen, byddwch yn gweld sawl dogfen - y Rheoliadau drafft o 19 Medi y dylid ei ddarllen ar y cyd â'r Ddogfen Ymgynghorol yr un dyddiad a'r Nodyn Technegol ategol sy'n egluro'r ymagwedd a gymerwyd at ddrafftio Rheoliadau hyn.
Nodwch - Rhannau 4 a 5 o'r Rheoliadau sy'n gweithredu argymhellion yr Arglwydd Young ar gaffael cyhoeddus, yn cynrychioli polisi domestig yn y DU ac ni fydd yn gymwys i gyrff yng Nghymru lle mae eu swyddogaethau yn rhannol neu’n yn gyfan gwbl wedi yn ddatganoledig i Gymru.
Bydd Gwerth Cymru yn cydlynu'r broses ymgynghori yng Nghymru a chasglu ymatebion, felly os oes gennych unrhyw sylwadau, os gwelwch yn dda gallwch ymateb i VWpolicy@wales.gsi.gov.uk erbyn 13 Hydref, 2014.
Pwysig - Caffael Electronig Gorfodol
Mae Cyfarwyddebau Caffael 2014 newydd yr Undeb Ewropeaidd, a fydd yn dod i rym yn ystod 2015, yn cynnwys gofynion newydd o ran caffael electronig sydd angen yr holl gyflenwyr i fod yn ymwybodol ohonynt. Trosglwyddiad hysbysiadau ar ffurf electronig, argaeledd y dogfennau Caffael yn electronig ac - ar ôl cyfnod trosiannol o hyd at 30 mis - bydd cyfathrebu electronig llawn, sy'n golygu cyfathrebu trwy ddulliau electronig yn ystod pob cam o'r weithdrefn, yn cynnwys trosglwyddo ceisiadau am gyfranogiad ac, yn arbennig, trosglwyddiad y tendrau (cyflwyniad electronig) yn cael ei wneud yn orfodol.
Mae'n bwysig bod cyflenwyr yn ymwybodol o'r newidiadau hyn er mwyn iddynt allu paratoi eu hunain ac sicrhau eu bod yn 'e-alluogi' er mwyn cydymffurfio â'r rheolau newydd. Gallwch weld gyngor a chefnogaeth gan yr Ymgynghorwyr Tendro Busnes Cymru http://business.wales.gov.uk/cy/tyfu-busnes/cy-welsh-government-support-1/gwasanaeth-datblygu-dyflenwyr
Cyhoeddwyd gyntaf
03 Hydref 2014
Diweddarwyd diwethaf
07 Mawrth 2024